Adnoddau
supporting image for Yr Hengerdd a’r Cywyddau
Gwybodaeth
Cyhoeddwyd: Dydd Mercher, 19 Medi 2018
Awdur:
- Yr Athro Marged Haycock, Prifysgol Aberystwyth
- Yr Athro Peredur Lynch, Prifysgol Bangor
Adnoddau perthnasol
Cyfres Help Llaw – Y Gododdin, Aneirin
Cymraeg
Cywyddau Dafydd ap Gwilym a Lewys Glyn Cothi
Cymraeg
Aneirin a Taliesin
Cymraeg
Cywyddau Dafydd ap Gwilym
Cymraeg

Yr Hengerdd a’r Cywyddau

Cymraeg
CA5 >

Dyma adnodd i gefnogi addysgu elfen CY5 ‘Yr Hengerdd a’r Cywyddau’ manyleb safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf CBAC. Wedi ei awduro gan ddarlithwyr ein prifysgolion, mae’n agor cil y drws ar ddirgelion barddoniaeth ganrifoedd oed mewn modd hygyrch a difyr. Gyda chlic, mae modd canfod nodiadau geiriol sy’n datgelu ystyron geiriau a llinellau hynafol, dysgu am driciau mydryddol y beirdd, gwylio ffilm sy’n rhoi cyd-destun clir i’r ‘Gododdin’ yn yr Hen Ogledd yn cynnwys ymweliad â’r gwersyll milwrol cyfredol yng Nghatraeth (Catterick heddiw), neu wrando ar fersiynau Aneirin Karadog o rai o gerddi'r fanyleb.

Yn dilyn yr unedau ar ‘Y Gododdin’ a Chanu Taliesin, mae'r uned olaf ar Dafydd ap Gwilym yn ei lle.

Cydnabyddiaethau
Lluniau'r llawysgrifau trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Dinas Caerdydd, a Gwasanaethau Llyfrgelloedd Cyngor Caerdydd.
 
Dafydd ap Gwilym:
Codwyd y cerddi o’r wefan dafyddapgwilym.net
Ceir yno olygiad newydd ar ffurf electronig o ganu Dafydd ap Gwilym. Paratowyd y golygiad  gan dîm o ymchwilwyr ac o ysgolheigion o sawl sefydliad, o dan arweiniad yr Athro Dafydd Johnston. Ym Mhrifysgol Abertawe yr oedd cartref y prosiect. Cyhoeddwyd testun print o’r cerddi yn 2010, sef Cerddi Dafydd ap Gwilym.
 
Noddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd dan nawdd Cynllun Adnoddau Addysgu a Dysgu CBAC.
cywyddau
gododdin
hengerdd
taliesin
Dafydd ap Gwilym
Ffeiliau
Y Gododdin
Canu Taliesin
Dafydd ap Gwilym

Adborth

Ddim yn gweld beth ydych eisiau? A oes yna broblem gyda'r ffeiliau? A oes gennych awgrym? Rhowch adborth i ni, rydym yn croesawu pob gohebiaeth gan ein defnyddwyr.