Arweiniad cynhwysfawr i gyflwyno pedwar cysyniad allweddol y fanyleb TGAU Astudio'r Cyfryngau sy'n ymwneud â'r Diwydiant Cerddoriaeth. Mae'n cynnwys ystod eang o gynnyrch diddorol a pherthnasol y gall athrawon eu defnyddio gyda'u dysgwyr. Mae'r adnodd wedi ei gynllunio yn arbennig i grynhoi gofynion Uned 1 Adran B a datblygu sgiliau allweddol mewn perthynas ag amrywiaeth eang o gynnyrch cerddoriaeth.
Gellir defnyddio deunyddiau trydydd parti at ddibenion beirniadu ac adolygu drwy'r rheol delio teg, ond os oes unrhyw beth wedi’i hepgor, neu unrhyw beth yn anghywir, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu gwneud y cywiriadau angenrheidiol adnoddau@cbac.co.uk.
Er bod yr holl adnoddau’n gywir ar adeg eu cyhoeddi, dylai athrawon fod yn ymwybodol bod pethau’n symud yn gyflym yn niwydiant y cyfryngau ac felly dylent wirio bod y wybodaeth yn dal yn gyfredol ac yn gywir.