Mae’r adnodd hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw ystafell ddosbarth sydd â thaflunydd data neu fwrdd gwyn rhyngweithiol.
Gall y defnyddiwr ddewis o blith nifer o siapiau a llinellau drych rhagosodedig.
Hefyd, ceir y dewis i guddio/ddangos:
y siâp adlewyrchedig
llinell yr adlewyrchiad
llinell hafaliad yr adlewyrchiad.
yr echelin
Mae’r toglau cyfeillgar yn caniatáu i’r defnyddiwr addasu’r siâp ac at hyn gellir cuddio/ddangos yr holl linellau llunio neu’r rhai sy’n cael eu diffinio gan y defnyddiwr yn unig.